Ynglŷn â’r Prosiect

Y Prosiect

Yn 2015, dyfarnwyd grant y Loteri Fawr i’r Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth ar gyfer cyflawni prosiect ymchwil yn edrych ar wahanol agweddau ar heneiddio, perthnasau teuluol, cam-drin henoed a chyfiawnder.

 

 

Yn y llun o’r chwith i’r dde fe welir Yr Athro John Williams, Sarah Wydall sy’n Gymrawd Ymchwil Hŷn a’r Athro Alan Clarke, ynghyd â’r gacen, yn y cyfarfod lansio yng Nghaerdydd, Ionawr 2017.

 

 

 

 

 

 

 

       

Fe ddeilliodd Dewis Choice o nifer o brosiectau ymchwil a gyflawnwyd gan y ganolfan yn ymchwilio i wahanol agweddau ar gam-drin henoed.

 

Gweler tudalennau ‘Canolfan Ymchwil’ y wefan hon am ragor o fanylion.

 

Mae’r prosiect Dewis Choice yn rhedeg am dair blynedd a hanner o 2015 i 2018. Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau cenedlaethol megis Age Cymru, Hafan Cymru, Y Groes Goch a Chymorth i Ferched Cymru. Cafodd y prosiect gymorth sylweddol hefyd gan awdurdodau lleol a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

Cam-drin yn y Cartref

Diffinnir cam-drin yn y cartref fel unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad, trais neu gam-drin rheolaethol, gorfodol, bygythiol rhwng y rheiny sy’n 16 neu drosodd neu sydd, neu wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, beth bynnag fo’u rhyw neu eu rhywioldeb.

Gall cam-drin gwmpasu, heb gael ei gyfyngu i, gam-drin sy’n:

  • Seicolegol
  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Ariannol
  • Emosiynol
  • Cael ei achosi gan esgeulustod

Mae cam-drin yn y cartref lle mae’r unigolyn sy’n cael ei gam-drin yn 60 oed neu’n hŷn, yn digwydd i filoedd o bobl hŷn yng Nghymru bob dydd, ac amcangyfrifir bod 39,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cam-drin bob blwyddyn – sy’n ffigwr uwch yn ôl cyfran na gweddill y DU (Astudiaeth o nifer yr achosion, Yr Adran Iechyd a Comic Relief, 2007).

Data ystadegol

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data o bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, sy’n ymwneud ag achosion Diogelu Oedolion a gyfeirir atynt, lle cafodd oedolion eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Cyhoeddir adroddiad blynyddol yn crynhoi’r canfyddiadau, y gellir dod o hyd iddo ar wefan Llywodraeth Cymru, yn yr adran Ymchwil ac Ystadegau. Dilynwch y ddolen gyswllt isod:

https://gov.wales/docs/statistics/2017/171130-adult-safeguarding-2016-17-en.pdf

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dangosodd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016-17:

  • Mai menywod 65 oed neu drosodd, sef 43% (1,950) o’r atgyfeiriadau a gwblhawyd, oedd dioddefwyr mwyaf cyffredin y cam-drin honedig o hyd.
  • Esgeulustod (36%) a cham-drin corfforol (32%) oedd y mathau mwyaf cyffredin o gam-drin.
  • Roedd 65% (2,925 o achosion) o’r atgyfeiriadau a gwblhawyd ar gyfer pobl 65 oed a throsodd.
  • O’r 2,925 o achosion, roedd 67% yn fenywod (1,950) a 33% yn ddynion (975)
  • Cafodd 39% o bobl a wnaeth honiadau am gam-drin eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain
  • Roedd 23% o’r rheiny yr honnwyd iddynt fod yn gyfrifol am gam-drin yn aelodau’r teulu
  • Roedd y cam-drin honedig yn fwy tebygol o ddigwydd yng nghartref yr unigolyn yn y gymuned (39%) neu mewn cartref gofal (cartref preswyl a chartref nyrsio) (34%)

 

Yn y DU, rhoddodd y cyfryngau lawer o sylw i gam-drin pobl hŷn mewn ysbytai, cartrefi gofal, a sefydliadau eraill. Fodd bynnag, fel y mae’r ystadegau yn dangos, caiff pobl hŷn eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal ac mae llawer yn methu â’i rwystro rhag digwydd – yn aml am nad ydynt yn gwybod ble i ddod o hyd i’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol a ddymunant. Dangosodd ymchwil yn y gorffennol fod llawer o bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn methu sicrhau cyfiawnder ac mai prin yw’r erlyniadau troseddol a’r achosion o dan y gyfraith sifil.

Gall pobl sy’n cam-drin fod yn aelodau o’r teulu, pobl a ddylai fod yn darparu gofal, neu ‘ffrindiau’ honedig. Mae effaith cam-drin ar berson hŷn yn aml yn sylweddol, gan arwain at ynysu cymdeithasol, maeth gwael, tlodi tanwydd a dyled. Dangosodd ymchwil diweddar gan Safe Lives fod pobl hŷn yn dioddef cam-drin yn y cartref am ddwywaith mor hir, ar gyfartaledd, cyn gofyn am help, o gymharu â phobl dan drigain oed.

 

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae Dewis Choice yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau megis Age Cymru, Hafan Cymru, Y Groes Goch, Action on Elder Abuse Cymru, Cymru Ddiogelach a Chymorth i Fenywod Cymru. Cafodd y prosiect hefyd gymorth sylweddol gan awdurdodau lleol, yr heddlu a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Er mai erlyn yw’r peth cywir i’w wneud mewn rhai achosion, yn aml iawn nid yw pobl hŷn yn dymuno gwneud aelod o’r teulu yn droseddwr gan eu bod o’r farn y gall wneud y sefyllfa’n waeth.

Er enghraifft, efallai nad yw person hŷn sy’n cael ei gam-drin yn ariannol gan blentyn neu ŵyr/wyres, yn dymuno eu herlyn gan y gallai hynny roi straen ar y teulu ac arwain o bosib at chwalu’r teulu ac amddifadu’r person hŷn o gefnogaeth gan deulu ehangach.

 

Yr hyn mae Dewis Choice yn ei gynnig:

  • Bu Dewis Choice yn cydweithio â phobl hŷn, gwirfoddolwyr, cymunedau lleol a phobl broffesiynol mewn dwy ardal beilot (Sir Gâr a Chaerdydd) i gynllunio ymagweddu ychwanegol at gyfiawnder ar sail egwyddorion adferol.
  • O ganlyniad, rydym yn gallu cynnig Gwasanaeth Lles, ac mae’r agwedd newydd hon yn un o dri dewis a gyflwynir i’r cwsmer gan Swyddog Cymorth Dewis Choice. Mae’r cwsmeriaid sy’n manteisio ar gynnig y Gwasanaeth Lles yn gweithio gydag Ymarferydd Dewis Choice.
  • Caiff pobl hŷn eu cynnwys o’r cychwyn ym mhob trafodaeth a phenderfyniad ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu ac maen nhw’n teimlo’n rymus oherwydd hyn.
  • Mae staff cymwysedig a hyfforddedig y prosiect yn cydgysylltu â’r person hŷn ac aelodau eraill y teulu i gytuno sut orau i ddatrys y sefyllfa.
  • Gall Swyddog Cymorth Dewis Choice ac Ymarferydd Dewis Choice gydweithio â’r person hŷn a’r teulu am hyd at 12 mis.

Dywedodd Sarah Wydall, Cymrawd Ymchwil Hŷn, ym Mhrifysgol Aberystwyth;

“Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â methiant gweithdrefnau presennol i roi ymdeimlad o gyfiawnder a sicrwydd i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin na fydd y cam-drin yn parhau. Ceir yma ymagweddu hynod arloesol, yn enwedig wrth gynnwys dioddefwyr ac integreiddio ymchwil ac ymarfer. Er bod y prosiect wedi’i leoli yng Nghymru, bydd arwyddocâd rhyngwladol i ganfyddiadau’r prosiect.”

 

Pam mae angen Dewis Choice

Dywedodd yr Athro John Williams, o Ysgol y Gyfraith Aberystwyth;

“Mae ein hymchwil blaenorol yn dangos bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn dymuno dau beth.

  • Yn gyntaf, maen nhw’n dymuno i’r cam-drin ddod i ben. 
  • Yn ail, maen nhw’n dymuno cyfiawnder.

Nid yw bob amser yn eglur beth a olygir wrth gyfiawnder.  
Nid yw o reidrwydd yn golygu achosion troseddol. Mae angen dewisiadau cyfiawnder eraill sy’n sicrhau bod y cam-drin yn dod i ben ac yn gwneud i’r person hŷn deimlo bod cyfiawnder wedi ei gyflawni.”

  • Yn aml, nid yw llawer o bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain yn gwybod sut i ddod o hyd i’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
  • Mae llawer yn dymuno peidio â throi at yr heddlu neu erlyn rhywun drwy achos llys sifil – felly nid oes ateb arall ar gael iddynt ac nid oes unrhyw un yn ymgymryd â’r achos.
  • Mae’r math hwn o gam-drin pobl hŷn yn gymhleth iawn, gan mai aelod o’r teulu yn aml yw’r troseddwr, a gall fod y person hŷn yn anfodlon i geisio gwneud unrhyw beth i ddod â’r cam-drin i ben gan y byddai hynny’n rhoi straen ar y teulu ehangach, yn arwain o bosibl at chwalu’r teulu ac yn eu hamddifadu o gefnogaeth y teulu.

Felly, ,mae angen dewisiadau ac atebion newydd, sy’n adlewyrchu anghenion yr unigolyn sy’n cael ei gam-drin ac sydd wedi’u teilwra’n well ar gyfer y gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal.