Hydref 3ydd 2016 Carmel Boston, Swyddog Cefnogi, yn dechrau gweithio ar Brosiect Dewis.

Hydref 3ydd 2016

Carmel Boston, Swyddog Cefnogi, yn dechrau gweithio ar Brosiect Dewis.

Rydym yn falch iawn fod Carmel Boston, y gyntaf o’n dau Swyddog Cefnogi, wedi ymuno â thîm Dewis.

Llun: Carmel Boston

 

Bydd Carmel yn treulio hyd at 18 mis yn gweithio gyda phobl hŷn yng Nghaerdydd sy’n cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain. Bydd ail Swyddog Cefnogi Dewis yn cael ei benodi i weithio yn Sir Gâr yn Ionawr 2017.

Bydd y Swyddogion Cefnogi yn trafod gyda dioddefwyr y gwahanol lwybrau sy’n agored iddynt – yn cynnwys dwyn achos gerbron y llys, ceisio tegwch drwy lys sifil neu fabwysiadu arfer adferol. 

Bydd Swyddog Cefnogi Caerdydd wedi’i lleoli yn swyddfeydd Cymru Ddiogelach, elusen a fu’n gweithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref ers 20 mlynedd.

Meddai Barbara Natasegara, un o Brif Gyd-Swyddogion Gweithredol Cymru Ddiogelach: “Mae cam-drin pobl hŷn yn rhywbeth sy’n digwydd yn ddyddiol yma yng Nghymru, ond dyw nifer o bobl hŷn ddim yn gwybod o hyd sut i ddod o hyd i gefnogaeth, nac yn gwybod ychwaith fod cymorth ar gael. Yng Nghymru Ddiogelach, rydym yn gweithio gyda’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas bob dydd, ac mae pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn cynrychioli canran bryderus o’r bobl hynny. 

“Rydym yn falch iawn i gydweithio â phrosiect Dewis i ddatblygu ffordd newydd o gefnogi pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin a’u teuluoedd, ac i weithio, yn y pen draw, tuag at roi diwedd ar gam-drin pobl hŷn yn gyfan gwbl.”

Mae prosiect Dewis hefyd yn cydweithio’n agos â mudiadau eraill yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru. 

Bydd y ddolen gyswllt isod yn eich arwain at ddatganiad llawn i’r wasg am y stori hon.

Hydref 2il 2016 – Hanner Marathon Caerdydd

Hydref 2il 2016 – Hanner Marathon Caerdydd

Ysgrifennwyd gan Jeremy Newman – Cydlynydd ymchwil prosiect Dewis.

Wel, ar ôl penderfynu yng ngwanwyn 2016 fy mod i am ddechrau cadw’n heini eto ar ôl 25 mlynedd o wneud dim, yr ysgogiad oedd ei angen arnaf oedd trydar gan Age Cymru yn annog pobl i redeg hanner marathon Caerdydd a chodi arian iddynt. Gan ein bod ni wedi bod yn cydweithio â nhw ar y prosiect, roedd yn ymddangos yn gyfuniad ac yn achos perffaith i godi arian ar ei gyfer. 

Bu fy ffrindiau, fy nheulu a’m cydweithwyr yn arbennig o hael ac rwyf wedi codi ychydig dros £850 ar gyfer Age Cymru – ac rwy’n ddiolchgar iawn, iawn i bob un ohonynt.

Ganol Ebrill, dechreuais hyfforddiant cylchol ryw ddwywaith yr wythnos. Prynais bâr o esgidiau rhedeg a mentrais ddechrau rhedeg yn araf ganol Mai. Rwy’n ceisio ‘gwneud’ Park Run 5k Aber ar fore Sadwrn, sy’n ffordd wych o ddechrau’r penwythnos. Dechreuais redeg ymhellach ac yn amlach yn ystod yr haf a chwblhau ambell 10 milltir ddechrau a ganol Medi, ac roeddwn yn teimlo’n dda wrth fynd i’r ras ar Hydref 2il. 

Roedd pawb y bûm yn siarad â nhw a oedd wedi cwblhau ras Caerdydd o’r blaen wedi sôn am achlysur gwych – ac roedden nhw’n hollol iawn. Roedd y tywydd yn arbennig – clir a heulog, a wnaeth olygu fy mod i’n taflu cymaint o ddŵr dros fy mhen wrth y stondinau dŵr ag yr oeddwn yn ei yfed. Roedd awyrgylch y torfeydd yn drydanol a phawb mor gefnogol i’r holl redwyr, nid pobl fel fi yn unig a oedd yn rhedeg ar gyfer pob elusen y gallech ei dychmygu. 

Roedd sawl rhedwr doniol ar y cwrs – nifer o archarwyr a chlown teircoes, ond er iddo ef / iddyn nhw fynd heibio i fi ar un adeg, es innau heibio iddyn nhw hefyd cyn y diwedd! 

Roedd y golygfeydd ar y cwrs yn wych – yn arbennig wrth redeg allan drwy farina Penarth a thros argae Bae Caerdydd. Chafodd y rhiw ar 12 milltir ddim cymaint o groeso gennyf – byr a serth, felly rhedais rywfaint ohono a cherdded y gweddill. 

Wrth ichi agosáu at y llinell derfyn mae’r gefnogaeth a’r sŵn yn fwy eto, ac ar ôl i chi groesi’r llinell derfyn mae digon o gymorth a chefnogaeth – dwi erioed wedi gweld cynifer o fananas mewn bocsys yn barod i’w dosbarthu! 

Roeddwn wedi gobeithio gorffen y ras mewn llai na 2 awr 30 munud, ac felly roeddwn yn falch o wneud hynny mewn ychydig dros 2 awr a 25 munud – ysgogiad i redeg yn gynt y tro nesaf!I 

Roedd y cyfleusterau ym Mhentref y Rhedwyr yn drefnus iawn ac roedd hi’n wych cael cwrdd â rhai o staff Age Cymru a oedd ym mhabell y mudiad. Diolch yn fawr am y byrgyr a’r ddiod ar ôl y ras. 

Tystiolaeth ffotograffig fy mod i yno!

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm 50+

Medi 16eg 2016

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm 50+  – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Fel un o wirfoddolwyr y Prosiect Dewis, fe’m gwahoddwyd i helpu Jeremy i drefnu stondin yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Fforwm 50+ ar Fedi 16eg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Addurnwyd stondin Dewis â gwybodaeth a thaflenni am y prosiect, asiantaethau partner a mudiadau eraill sy’n cynnig cefnogaeth i unigolion sy’n cael eu cam-drin.

Mi wnaethom ofyn i ymwelwyr â’r stondin a fyddent yn hapus i lenwi holiadur byr a oedd yn holi’r ddau gwestiwn yma:

Y peth/au rwy’n ei/eu (g)werthfawrogi fwyaf mewn perthynas agos wrth i mi fynd yn hŷn yw:

Pe bai rhywun agos ataf gartref yn achosi niwed neu bryder i mi, wrth bwy fyddwn i’n cyfaddef?

Anogwyd ymwelwyr â’r stondin i ymateb i’r cwestiynau hyn yn gyfnewid am gael dewis o’r fowlen fawr o losin ar y bwrdd – ac roeddem yn gwneud yn siŵr fod digon ynddi drwy’r amser! Roedd yr ymateb yn anhygoel; cofnodwyd 160 o ymwelwyr â’r stondin a llenwyd 91 o holiaduron.

Roedd pobl yn awyddus i wybod mwy am y prosiect a’r problemau sy’n wynebu’r sawl sy’n cael eu cam-drin yn y cartref yn eu henaint. Bu rhai yn rhannu eu profiadau o gefnogi aelodau’r teulu a ffrindiau a oedd yn cael eu cam-drin, ond roedd eraill wedi’u syfranu’n llwyr gan raddfa’r broblem. Roedd yr ymateb i’r prosiect yn hynod gadarnhaol, a’r ymwelwyr yn frwd o blaid ein dull o ganolbwyntio ar yr unigolyn.

Mwynheais y diwrnod, ac yn arbennig y cyfle i gwrdd a siarad â chynifer o bobl ddiddorol, a chlywed eu straeon am heriau a phleserau heneiddio (a’u hawgrymiadau ffasiwn, ond mi wnaf gadw’r rheiny i mi fy hun).

Ysgrifennwyd gan Elize Freeman.

Medi 1af, 2016

Medi 1af, 2016

Mae Sarah Wydall, Cymrawd Ymchwil Hŷn ac un o’r Prif Gyd-Ymchwilwyr, yn ymuno ag Oliver Hides a Peter Johnson ar BBC Radio Wales i drafod pwysigrwydd sicrhau arferion cyfiawnder adferol o safon uchel mewn achosion o gam-drin pobl hŷn. Roedd y cyfweliad yn ymateb i adroddiad gan ASau a oedd yn argymell y dylai fod gan ddioddefwyr troseddau hawl gyfreithiol i gyfiawnder adferol.  

I wrando ar y rhaglen radio yn ei chyfanrwydd, ewch i: http://www.bbc.co.uk/programmes/b07pk9f5#play

 

Lawrlwytho Sarah Wydall yn ymuno ag Oliver Hides a Peter Johnson ar BBC Radio Wales