Gwirfoddoli

Sut gallwch chi wirfoddoli

Ceir nifer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer gwirfoddolwyr.

Mae Dewis/Choice yn chwilio am bobl ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad, felly os hoffech ein helpu mewn unrhyw ffordd, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.                 

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi wirfoddoli:

Bod yn rhan o grŵp trafod – mae gennym ddiddordeb mewn casglu barn pobl ar agweddau ar les, agweddau tuag at heneiddio (eu hagweddau eu hunain a sut mae cymdeithas yn gweld pobl hŷn), a beth sy’n gwneud perthynas iach, yn eu barn nhw.

I’n helpu gyda hyn, rydym yn chwilio am bobl a fyddai’n fodlon cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp bach, i edrych ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â heneiddio.

I ganfod mwy – lawrlwythwch y daflen wybodaeth hon isod.

Information on discussion groups

Gwybodaeth am grwpiau trafod

‘Beth yw perthynas iach?’ Ychydig iawn o ymgyrchoedd iechyd a lles sy’n canolbwyntio ar yr hyn mae pobl 60+ yn ei werthfawrogi am eu perthynas ag aelodau’r teulu. Gallwch ein helpu drwy ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi.

  • Mae sawl ffordd o roi eich barn – cysylltwch â’r tîm ymchwil i drefnu amser cyfleus i ni siarad â chi.
  • Ysgrifennwch atom yn rhoi eich barn ynglŷn â beth sy’n rhoi boddhad i chi am eich perthynas â’ch gŵr, gwraig, plant, wyrion.
  • Anfonwch ffotograffau, lluniau, hysbysebion ac yn y6 blaen atom sy’n dangos enghreifftiau o heneiddio’n gadarnhaol yng Nghymru.

‘Dangoswch eich cymuned i ni’ – ein helpu ni i ddeall eich cymuned; dweud wrthym ble mae pobl hŷn yn cwrdd a pha grwpiau maen nhw’n perthyn iddynt. Gall gynnwys mynd â ni am dro yn eich cymuned a fydd yn helpu i wneud ein gweithgarwch codi ymwybyddiaeth yn fwy effeithiol;

 

‘Helpu i godi ymwybyddiaeth yn eich cymuned’ – am broblemau pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain.
Gall gynnwys:

  • Siarad am y prosiect mewn cyfarfodydd lleol grwpiau rydych yn eu mynychu eisoes neu drwy helpu yn y cyfarfodydd grŵp lleol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd;
  • Rhannu posteri a thaflenni am y prosiect, er enghraifft mewn llyfrgelloedd, meddygfeydd, fferyllfeydd a lleoliadau addas eraill yn eich ardal:

 ‘Gwisgo eich het greadigol’. Rydym yn awyddus i weld unrhyw syniadau sydd gan bobl ynglŷn â lluniau fyddai’n gallu gweithio’n dda ar gyfer y prosiect ac y gallem eu defnyddio yn ein hymgyrchoedd. Er enghraifft, gall gynnwys lluniau, ffotograffau neu ddelweddau o bobl hŷn sy’n dangos heneiddio yn gadarnhaol, ond ni allwn warantu y bydd yr holl ddeunydd yn cael ei ddefnyddio.

Anfonwch eich syniadau atom drwy e-bost, choice@aber.ac.uk, y cyfryngau cymdeithasol neu’r post!

‘Ymuno â ni ar y cyfryngau cymdeithasol’. Rydym yn awyddus i hyrwyddo anghenion a hawliau pobl sy’n 60 oed a throsodd. Rydyn ni#n darparu’r manylion diweddaraf am ddatblygiadau prosiect, newidiadau mewn polisi a newyddion am ddigwyddiadau cyhoeddus a chynadleddau sy’n canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â ni yn hwyrach yn ein bywyd. Byddem hefyd yn hoffi ichi fynegi eich barn a phostio delweddau cadarnhaol am bobl hŷn ar ein tudalennau Twitter a Facebook.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli ar y prosiect, ac am roi gwybod i ni wedyn fod gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, lawrlwythwch y ‘Daflen Wybodaeth i Wirfoddolwyr’ a’r ffurflen ‘Mynegi Diddordeb’ – dolenni cyswllt isod – a dychwelyd y ffurflen atom.

Volunteer Information Sheet

Volunteer Expression of Interest

Cysylltwch â ni os oes gennych ragor o gwestiynau am y prosiect neu i roi gwybod sut gallech ein helpu drwy wirfoddoli.

Diolch am eich diddordeb yn Dewis/Choice. 

 

Dyma rai enghreifftiau o wirfoddolwyr sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect: 

Grŵp Ysgrifennu Prifysgol y Drydedd Oes Caerdydd

Yn gynnar yn 2016, cysylltodd Dewis/Choice â Grŵp Ysgrifennu Prifysgol y Drydedd Oes a thrafod a fyddai’n hoffi ysgrifennu rhywbeth ar gyfer y prosiect oedd yn ymwneud â’r pwnc eang o ‘heneiddio’n gadaranhaol’. Roedd ein briff yn eithaf llac, fel a ganlyn:

Heneiddio’n Gadarnhaol

Gwelir heneiddio yn aml fel proses negyddol ac nid yw’n bwnc y mae pobl yn gysurus yn siarad amdano bob amser. Mae fel pe bai cymdeithas, yn aml drwy’r cyfryngau a hysbysebu, yn dweud wrthym fod hi’n well bod yn iau.

Meddyliwch am eiliad am hysbysebu ar y teledu – lliw gwallt i guddio’r gwallt llwyd, tabledi i esmwytho poen y cymalau, cynlluniau ariannol ar gyfer costau angladdau, nwyddau ar gyfer problemau gwlychu a dannedd gosod. Nawr ceisiwch feddwl am hysbyseb sy’n hybu heneiddio’n gadarnhol.

Gall stereoteipiau negyddol heneiddio gael effaith andwyol ar fywydau pobl. Mae Prosiect Dewis/Choice am herio’r syniad fod heneiddio yn negyddol a hybu agwedd fwy cadarnhaol tuag at bobl hŷn a’u cyfraniad i gymdeithas. Rydym o’r farn fod heneiddio yn rhywbeth y dylid ei ddathlu.

“Heneiddio Cadarnhaol yw wynebu heriau bywyd yn ymwybodol pan fyddwch yn hŷn” (positiveageing.org).  Wrth inni symud drwy fywyd, deallwn y gall ein profiad a rhai o’r heriau a wynebwn effeithio ar y dewisiadau a wnawn a’r ffordd rydym yn byw. Gall hyn gynnwys pethau fel ein hiechyd corfforol a meddyliol, gwaith, argaeledd gwasanaethau a chefnogaeth teulu. Gall hefyd newid sut y gwelwn ein hunain o’i gymharu â’r ffordd y gall eraill ein gweld ni.

Anfonodd arweinydd y grŵp, Richard Garman, y darn teimladwy isod atom, wedi’i seilio’n rhannol ar stori wir. Mae Richard yn hapus i ni ei gydnabod fel awdur y darn.

 

Trawiad ar y galon

Geiriau nad oedd yn golygu dim i mi, ond a fagodd arwyddocâd dramatig pan fu farw fy ngŵr, ac yntau ond yn ddeugain oed. Fe’m gadawyd â thri phlentyn ifanc i’w magu, heb incwm. Doedd dim amdani ond ailystyried fy mywyd a wynebu’r her. Dwi ddim y math o berson sy’n mwynhau hunandosturi; doedd dim amser. Roedd fy angen i ar y plant ac roedd yn rhaid i mi drefnu bywyd newydd.

Yn ffodus iawn, roeddwn wedi bod yn un o filwyr Llu Awyr Brenhinol y Menywod yn ystod y rhyfel ac wedi gweithio mewn gwersyll awyrennau Lancaster yn East Anglia. Roeddwn wrth fy modd â phethau mecanyddol a chyn bo hir roeddwn wrthi’n gyrru lorris, yn eu cynnal a’u cadw, ac yn newid olwynion ac ati, ac yn cael cymeradwyaeth y criw awyr ifanc a golygus a’r criw ar y llawr. Roeddwn yn fy elfen a datblygais yn bersonol oherwydd y profiad. Roedd yn dipyn o wefr i roi harnais ar y trelar a oedd yn llawn bomiau arbennig o ffrwydrol ar gefn fy nhractor a’u gyrru i’w llwytho gan yr arfogwyr ar yr awyrennau. Roedd hi’n anodd weithiau wrth aros yn gwrando’n daer am y drôn pell a fyddai’n dweud wrthym y byddai awyrennau olaf y cyrch yn dychwelyd yn fuan.

Roedd y fflach hwnnw o gred ynof fy hun yn goleuo, ond fel llawer o fenywod ar ôl y rhyfel, roeddwn bellach yn ôl unwaith eto yn stereoteip priodas, mamolaeth a dibyniaeth. Fflachiodd y golau ynof unwaith yn rhagor. Roedd gan fy ngŵr gar; bellach roedd gen innau gar ac roeddwn yn gallu ei yrru. Roedd gennyf grŵp o ffrindiau, sef y mamau wrth gât yr ysgol, ac roedd pob un ohonynt yn debyg am fod angen nôl a danfon y plant bach bob diwrnod ysgol. Cefais y syniad o ddechrau fy musnes bach fy hun yn dod â’r pethau hyn at ei gilydd ac a fyddai, gobeithio, yn ennill digon i mi allu rhedeg y cartref a’r tŷ. Byddwn yn cyflogi’r mamau eraill i ddarparu gwasanaeth taro taflenni drwy flychau post ar gyfer busnesau lleol. Aeth peth amser heibio cyn imi sicrhau fy ngwaith cyntaf, ond roedd fy nghynorthwywyr parod wedyn yn gallu cyflawni’r addewid. Byddwn innau’n eu gyrru i un pen y stryd, bydden nhw’n gwneud y gwaith a minnau’n eu codi’n hwyrach a throsglwyddo’r taflenni yn ôl yr angen. Byddem yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd nôl i’r ysgol mewn da bryd.

Gweithiodd hyn yn dda ac roeddwn yn mwynhau’r teimlad o foddhad fy mod i wedi peri i’r fenter weithio er lles fy nheulu a’r mamau eraill. Tyfodd fy nheulu i fyny a dod yn annibynnol, ond parhaodd y busnes. I dorri stori hir yn fyr, ni roddais y gorau iddi tan fod yn rhaid i mi, a minnau yng nghanol fy wythdegau. Dechreuodd fy ngolwg ddirywio a bu’n rhaid imi roi’r gorau i yrru. Rwy’n gweld eisiau gyrru. Rwy’n adnabod strydoedd Caerdydd fel cefn fy llaw – pob un lôn a stryd gefn. Er nad wyf yn gallu gweld y ffyrdd yn dda, wrth imi gael fy ngyrru neu wrth imi gerdded o gwmpas, mae fy mhen fel Satnav. Mae’n gwybod yn union pa lwybr i’w ddilyn ac rwy’n peri syndod yn aml i yrwyr tacsi sy’n rhyfeddu at fy ngwybodaeth. Pe bawn i’n byw yn Llundain gallwn fod wedi eu hyfforddi!

A minnau bellach yn methu gweithio na gweld, roedd bywyd ychydig yn wag. Dim problem. Roedd angen imi ddod o hyd i weithgareddau i lenwi fy mywyd. Yn gyntaf, dwi ddim yn gwbl ddall – mae gan y rhan fwyaf o bobl â nam ar eu golwg ryw fath o olwg ar ôl ac yn dysgu i wneud y gorau ohono. Mae gennyf gyfrifiadur llechen sydd wedi’i addasu’n arbennig â gwahanol declynnau hygyrchedd er mwyn i mi allu darllen testunau, cymryd lluniau a’u dangos, a Duw a ŵyr beth arall. Rwyf wedi glanio’n gadarn yn yr 21fed ganrif. Heblaw technoleg, ymunais â dosbarth cadw’n heini bob wythnos a chlwb cinio. O’r rhain, caf gyfuniad hyfryd o gyfeillgarwch cymdeithasol, cadw’r cymalau’n iach a chael un pryd o fwyd hawdd bob wythnos.

Rwyf yn mwynhau ysgrifennu erioed a, gyda help fy nghyfrifiadur a’m teulu, rwyf wedi dechrau ysgrifennu cerddi am ddigwyddiadau cyfoes. Rwy’n eithaf brenhingar, ac wedi ysgrifennu cerddi yn dathlu jiwbilî a phenblwyddi’r frenhines ac wedi’u hanfon i’r palas. Mae gennyf ymatebion bythgofiadwy yn fy nghasgliad, rhywbeth tebyg i “Cefais gyfarwyddyd gan Ei Mawrhydi i … “. Rwy’n trysori’r atgofion hyn ac yn cael cryn foddhad o allu derbyn cydnabyddiaeth fel hyn ar yr adeg hon o fy mywyd. Bydd y rhan fwyaf o bobl hŷn yn cael dathlu canfed pen-blwydd traddodiadol – mae gennyf hwnnw i edrych ymlaen ato o hyd.

©Richard Garman, 2016

Crewyd y daflen isod gan ddau ddisgybl chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd leol a dreuliodd wythnos yn gweithio gyda ni yn 2017. 

Crewyd gan wirfoddolwyr ysgol Aberaeron, Miles a Stephanie

Isod fe welir un o’n gwirfoddolwyr, Lauren Boaler, (chwith), gyda ein hymchwilydd Prosiect, Rebecca Zerk yn mynd am dro ar lan afon gyda Phrifysgol y Drydedd Oes ar ddiwrnod gwlyb iawn ym mis Rhagfyr 2015!

 

Isod fe welir grŵp trafod Prifysgol y Drydedd Oes Sir Gaerfyrddin, Mai 2017

 

 

Gwirfoddolwyr Elize, Mike a Sarah yn lansiad Caerdydd 2017

Gwirfoddolwyr Helen ac Afsaneh yn croesawu gwesteion i ddarlith gyhoeddus Margaret Flynn 2017

Mae Dewis/Choice yn gobeithio gweld newid cadarnhaol yn yr agweddau tuag at bobl hŷn sydd wedi cael eu cam-drin.

Bydd hefyd yn cynnig fforwm i unigolion a grwpiau gysylltu â’i gilydd i drafod a herio agweddau ac ymarferion presennol wrth ymateb i bobl hŷn sy’n cael eu niweidio yn eu cartrefi eu hunain.

Nod y prosiect yw canfod beth yw dymuniad pobl ar gyfer ‘cyfiawnder’.

Ein henw ar Twitter yw @choiceolderppl – dilynwch ni.